top of page
Henry Tufnell

Rwyf wedi ymrwymo i ddyfodol gwell i sir Benfro. Ymunwch â'm hymgyrch i'm helpu i ddod yn Ymgeisydd Seneddol Llafur ar gyfer Canolbarth a De Sir Benfro.

FY STORI
AMDANAF I

Fe wnes i ymarfer fel bargyfreithiwr cyn gadael i weithio fel trefnydd mewn undeb llafur llawr gwlad. Fy ngwerthoedd yw gwaith caled, cymuned a gofalu am eraill. Mae fy ngwaith yn y gyfraith a nawr y mudiad llafur yn dangos fy ymrwymiad i'r gwerthoedd hynny - ymladd dros hawliau gweithwyr a threfnu gweithwyr i ymgyrchu am well cyflog ac amodau gwaith.

 

Magwyd fy ngwraig, Poppy, yn Essex ac mae fy mam-yng-nghyfraith bellach yn byw ar Ynys Mersea. Rydym yn gysylltiedig â Colchester ac yn teimlo'n rhan o'r gymuned leol.

AMDANAF I

Rwyf wedi bod yn dod i Sir Benfro er pan oeddwn yn blentyn bach gyda fy mam, a gafodd ei geni ym Mhontypridd a’i magu yn Ne Cymru. Rwy’n dod o deulu o ffermwyr yn wreiddiol ac rwyf nawr yn byw tu allan i Dŷ Ddewi. Yn broffesiynol, hyfforddais ac ymarferais fel bargyfreithiwr cyn gadael i weithio fel trefnydd mewn undeb llafur llawr gwlad. Fy ngwerthoedd yw gweithio’n galed, cymuned a gofalu am eraill. Rwyf yn ymrwymedig i Sir Benfro ac eisiau bod yn gynrychiolydd wedi’i wreiddio yn y gymuned leol, gan ddefnyddio fy sgiliau i frwydro dros gymdeithas garedig, ofalgar a thrugarog lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi.

YR HERIAU A WYNEBWN

Mae’r Torïaid yn San Steffan yn tanseilio’r setliad datganoli. Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn ceisio diddymu gwarchodiadau cyflogaeth ac amgylcheddol hanfodol a ddylai fod yn nwylo Senedd Cymru sy’n cael ei arwain gan Lafur. Diolch i’r Torïaid, mae’r cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng bob blwyddyn – 8% yn is eleni na blwyddyn diwethaf – tra bod yr uchafswm ar gyfer benthyg cyfalaf heb newid ers 2016. Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn amlygu’r dirmyg sydd gan y Torïaid tuag at ddatganoli, am na chafodd  Llywodraeth Cymru unrhyw ran yn ei ddatblygiad, yn ei strategaeth nac wrth ei osod ar waith, nac ychwaith unrhyw wybodaeth o flaen llaw am gynigion.

5N4A5991.jpg

“Rwy’n benderfynol o frwydro dros gymdeithas decach a mwy cyfartal lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi”

PROFIAD

EIRIOLWR AR GYFER HAWLIAU GWEITHWYR

Cyn gweithio fel trefnydd undeb llafur, roeddwn yn gweithio fel bargyfreithiwr, yn arbenigo mewn Cyflogaeth, Gofal Iechyd a Chyfraith Gyhoeddus. Roeddwn i’n ymrwymedig i hyrwyddo mynediad at gyfiawnder wrth y Bar, gan dderbyn achosion ar sail gwirfoddol yn rheolaidd. Cynorthwyais undebau llafur yn wirfoddol, gan gefnogi fy nghangen o undeb y GMB ynghyd ag undebau llafur llawr gwlad eraill. Roeddwn i hefyd yn rhan o Ymgyrch Llafur dros Hawliau Dynol, ac roeddwn yn gyd-awdur ar bapur ar ran y sefydliad ynglŷn â’r Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rwyf eisiau defnyddio fy sgiliau fel eiriolwr a fy ngwybodaeth o’r system gyfiawnder i fod yn llais ar gyfer ein cymuned yng Nghanol a De Sir Benfro yn y senedd.

YMGYRCHYDD AC ACTIFYDD UNDEB LLAFUR

Rwyf yn gweithio ar hyn o bryd fel ymgyrchydd a threfnydd undeb llafur. Rwyf yn gweithio yn y Cleaners and Allied Independent Workers Union (“CAIWU), sy’n undeb llafur llawr gwlad wedi ei arwain gan yr aelodau yn arbenigo mewn cynrychioli glanhawyr ar draws y DU. Ein haelodau yw rhai o bobl mwyaf ymylol cymdeithas, sy’n aml wedi gorfod mudo o wledydd tramor ac yn goroesi ar swyddi cyflog isel, anwadal, gyda’r risg o gael eu hecsbloetio. Rydym yn ymgyrchu am gyflog gwell a gwell amodau gweithio yn y gweithle drwy weithredu casglebol, ac rydym yn brwydro am gyfiawnder yn y llysoedd i gadw eu cyflogwyr yn atebol.

A GYMERADWYWYD GAN

5th April 2024

March Newsletter

It was wonderful to see so many of you at the campaign launch earlier this month - thank you all for coming and being part of our movement to bring the change we need in Pembrokeshire.

8th March 2024

Pembrokeshire Herald Column - 8th March 2024

Earlier this week the Tory Government in Westminster suffered a series of defeats in the House of Lords over the bill to revive the Rwanda deportation scheme.

6th March 2024

February Newsletter

The calm before the storm...

General Election

If the Prime Minister surprises the commentariat of Westminster by calling a 2 May election, then this will be my last newsletter before the election is called. 

LABOUR PARTY UPDATES

Welsh Government News

View the latest announcements from the Welsh Government here

UK Labour Party Press Releases

View the latest press releases from the UK Labour Party here

PROFIAD

Register to Vote

Make sure you get on the electoral register so you can vote at the next General Election.

Volunteer

Join our team to achieve the change that we need in Pembrokeshire.

Donate

Help fund our campaign to secure a Labour MP in Pembrokeshire.

Join the Labour Party

Join us in working together to create a country that works for everyone.

Justin Maynard Jones

Fellow Council Candidate

YMRWYMIAD I GANOL A DE SIR BENFRO

Alberto Durango

General Secretary of CAIWU

"The great qualities I see in Henry, is that he is a person with a great feeling of human value, a sense for justice, an ethical person, and a person who would be a great representative for the people of Mid & South Pembrokeshire."

Richard Booth KC

Head of 1 Crown Office Row Chambers

"Henry is caring, conscientious and intelligent. He would make an excellent Member of Parliament for Mid & South Pembrokeshire."

PROFIAD

Anfonwch neges ataf i gefnogi fy ymgyrch

Diolch am gyflwyno!

  • Twitter
  • LinkedIn
Select an option (optional)
bottom of page